Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (88) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1i 12 a chwestiwn 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 13. Tynnwyd cwestiwn 14 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gwyn Price (Islwyn)
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr
asbestos a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd
Cwmcarn.
Cwestiwn Brys 2
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Mick Antoniw (Pontypridd)
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn y cyhoeddiad y bore yma gan Lywodraeth y DU, yn cadarnhau ei bwriad i ddirwyn y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol i ben heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.38
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: y cynnydd wrth weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i gau ffatrïoedd Remploy
Dechreuodd yr eitem am 14.51
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Y Diweddaraf ar Twf Swyddi Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.03
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Cymunedol a Chynnydd ar Bennod 7 y Rhaglen Lywodraethu
Dechreuodd yr eitem am 15.36
6. Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.13
NDM5063
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Dadl ar yr Adroddiad ar Ddinas-Ranbarthau
Dechreuodd yr eitem am 16.56
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw’r adroddiad yn rhoi digon o sylw i'r rôl y gall canolfannau diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ei chwarae i arwain y twf economaidd yng ngogledd Cymru.
Tynnwyd gwelliant 3 yn ôl.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5064 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r adroddiad ar y Dinas-ranbarthau.
Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.
Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.
Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 17 Hydref 2012